Q & A's

Why Merthyr Tydfil?
Merthyr Tydfil is suffering from the effects of anti-social behaviour and low level crime on its communities. Local organisations are increasing their co-operative working, seeking innovative ways to tackle problems facing Merthyr Tydfil and working with communities to improve their quality of life. The underpinning principles of Community Justice and the way in which it has been designed, set up, and is being run, all dovetail well with the ways of working of many of the key partners and with initiatives and programmes already running in Merthyr Tydfil

Where will the project be based?
The court will be based within Merthyr Tydfil Magistrates’ Court, and will deal with crimes committed in Merthyr Tydfil. These are the communities that will most benefit from having a community justice project in their area.

What will the project do?
The project will focus on engaging the community in reducing crime and anti-social behaviour effectively. It will bring the court and the criminal justice agencies together to look at new ways of solving local problems in a way that is responsive to the needs and concerns of local residents.

How is this different from other courts?
The court will deal with the crimes committed in its own neighbourhood and will focus on those that affect quality of local life and that cause the community most concern. Court staff, the judge and magistrates, together with the criminal justice agencies will meet local people to discuss their concerns. Members of the community will be able to suggest tasks that could be carried out by offenders on unpaid work. The judge and magistrates will be able to check up on offenders during their community sentence to make sure they stay on track.

How will the community be involved?
We have/are consulted/consulting the local community about the concept and how it can work best for them. Local people will have a say in the type of cases that are heard and will also be able to suggest tasks within the community that could be carried out by offenders on unpaid work.

Will the community be involved in sentencing?
No, sentencing is a matter for the judge/magistrates. The judge and/or magistrates will meet regularly with community members to find out about the effect that crime and ASB is having on their neighbourhoods. This will ensure they are aware of the impact of crime locally and can sentence having an increased awareness of the local context.

What crimes/cases will it deal with?
All criminal offences in Merthyr Tydfil other than:
-  Domestic violence
-  Indictable-only offences where the defendant (or at least one defendant, in the case of multi headed cases) is an adult.

What type of sentences will be used?
Sentencing will focus on problem-solving, addressing the underlying causes of offending. It will also focus on punishment for the offence and where possible reparation to the community. Where appropriate unpaid work will be carried out in the local community at the places people want so that it is relevant and visible. The court will also be able to order offenders back to court during their community sentence to check on the progress, something that is unique to community courts.

Is it a soft option?
No. People are made to confront their problems and this isn’t easy. Reparation needs to be made to the community. Continuous monitoring through sentence means that the offender may face tougher sentences if the sentence isn’t working.

How much does it cost?
There is no set budget at this stage and we are investigating possible sources of funds. We are aiming to run the project on a small budget so that lessons can be learned about what can be applied in other courts across the country. This is in the thousands rather than millions.

Where is the money coming from?
The Government has providing a small amount of start-up funding (in the thousands not millions) and we are investigating other sources of local funding.

What are core objectives of Community Justice?
-  Making the court and criminal justice agencies more responsive to the local community by ensuring that community needs are listened to, acted upon and do nor re-occur
-  Breaking the cycle of re-offending through a problem-solving approach
-  Ensure offenders comply with court orders and to make compliance highly visible to the local community

Why are you not simply building these additional services into ordinary courts?
While every indication is that the underpinning concepts of Community Justice will help us achieve reductions in crime, disorder and anti-social behaviour, as well as improve public confidence in the criminal justice system, we cannot be sure that this will be true until we have piloted the concept in a number of different areas. The 11 new projects, building on the work of Liverpool and Salford, will help the Government to evaluate how Community Justice can be mainstreamed across the criminal justice system.

_______________________________________________________________________

Pam Merthyr Tudful?
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu lefel isel yn cael effaith andwyol ar y cymunedau ym Merthyr Tudful. Mae mudiadau lleol yn mynd ati i gydweithredu mwy er mwyn canfod ffyrdd mwy arloesol o fynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu Merthyr Tudful i wella ansawdd bywyd y trigolion. Mae’r egwyddorion sylfaenol Cyfiawnder Cymunedol a’r ffordd mae wedi’i gynllunio, ei sefydlu ac yn cael ei redeg i gyd yn asio’n dda gyda ffordd o weithio llawer o’r partneriaethau allweddol a chyda’r cynlluniau a’r rhaglenni sydd eisoes ar waith ym Merthyr Tudful.

Lle fydd y prosiect yn cael ei leoli?
Bydd y llys yn cael ei leoli yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, a bydd yn delio â throseddu a gyflawnwyd ym Merthyr Tudful. Dyma’r cymunedau a fydd yn elwa fwyaf trwy gael prosiect cyfiawnder cymunedol yn eu hardal.

Beth fydd y prosiect yn ei wneud?
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ostwng troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ffordd effeithiol. Bydd yn dwyn y llys a’r asiantaethau cyfiawnder troseddol at ei gilydd i edrych ar ffyrdd newydd o ddatrys problemau lleol mewn ffordd sy’n ymateb i anghenion a phryderon preswylwyr lleol.

Ym mha ffordd fydd hwn yn wahanol i lysoedd eraill?
Bydd y llys yn delio â’r troseddau a gyflawnir yn ei gymdogaeth ei hun a bydd yn canolbwyntio ar y rhai sy’n effeithio ar ansawdd bywyd lleol ac sy’n achosi’r pryder mwyaf i’r gymuned. Bydd staff y llys, y barnwr ac ynadon, ynghyd â’r asiantaethau cyfiawnder troseddol yn cwrdd â phobl leol i drafod eu pryderon. Bydd aelodau’r gymuned yn cael awgrymu tasgau y gallai troseddwyr eu cyflawni ar ffurf gwaith di-dâl. Bydd y barnwr ac ynadon yn gallu cadw golwg ar droseddwyr yn ystod eu dedfryd gymunedol i sicrhau eu bod yn cadw ar y trywydd cywir.

I ba raddau fydd y gymuned yn gysylltiedig â’r prosiect?
Yr ydym wedi/yn y broses o ymgynghori â’r gymuned leol ynghylch y cysyniad a sut y bydd yn gweithio orau iddynt. Bydd gan bobl leol lais yn y math o achosion a glywir a byddant hefyd yn gallu awgrymu tasgau y gallai troseddwyr ei wneud ar ffurf gwaith di-dâl yn y gymuned.

A fydd y gymuned yn cymryd rhan yn y broses o ddedfrydu?
Na fydd, mae dedfrydu’n fater i’r barnwr/ynadon. Bydd y barnwr a/neu'r ynadon yn cwrdd yn rheolaidd gydag aelodau’r gymuned i ganfod pa effaith y mae troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei chael ar eu cymdogaethau. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o effaith troseddu’n lleol a gallant ddedfrydu troseddwyr gyda gwell dealltwriaeth o’r cyd-destun lleol.

Pa droseddau/achosion fydd y llys yn delio â hwy?
Pob trosedd droseddol ym Merthyr Tudful heblaw:
- Trais yn y cartref;
- Troseddau ditiadwy yn unig lle mae’r diffynnydd (neu o leiaf un diffynnydd, yn achos achosion gyda mwy ag un diffynnydd) yn oedolyn.

Pa fathau o ddedfrydau a ddefnyddir?
Bydd y prosiect yn defnyddio’r opsiynau dedfrydu sydd ar gael eisoes ac ni fydd yn creu unrhyw bwerau newydd. Bydd y dedfrydu’n canolbwyntio ar ddatrys problemau, gan roi sylw i achosion sylfaenol y troseddu. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar gosb ar gyfer y drosedd a phan yn bosibl ar wneud iawn i’r gymuned. Pan yn briodol bydd gwaith di-dâl yn cael ei wneud yn y gymuned leol yn y mannau hynny lle mae pobl am ei weld yn cael ei wneud fel ei fod yn berthnasol ac yn weladwy. Bydd y llys hefyd yn gallu gorchymyn troseddwyr i ddod yn ôl i’r llys yn ystod eu dedfryd gymuned i gael gwybod mwy am eu cynnydd, ac mae hyn yn rhywbeth sy’n unigryw i lysoedd cymunedol.

A yw hyn yn opsiwn hawdd?
Nac ydy. Mae’n gorfodi pobl i wynebu eu problemau ac nid yw hynny’n beth hawdd. Mae angen gwneud iawn i’r gymuned. Mae monitro parhaus trwy gydol y ddedfryd yn golygu y gall y troseddwr wynebu dedfrydau llymach os nad yw’r ddedfryd yn effeithiol.

Faint mae’n ei gostio?
Nid oes cyllideb benodedig wedi’i phennu eto ac yr ydym yn edrych ar ffynonellau cyllid posibl. Ein nod yw rhedeg y prosiect ar gyllideb fach er mwyn gallu dysgu gwersi ynghylch yr hyn y gellid ei ddefnyddio mewn llysoedd eraill ledled y wlad. Bydd hyn yn filoedd yn hytrach na miliynau.

O ble daw’r arian?
Mae’r Llywodraeth wedi darparu rhywfaint o arian i sefydlu’r prosiect (miloedd yn hytrach na miliynau) ac yr ydym yn chwilio am ffynonellau eraill o arian lleol.

Beth yw amcanion craidd Cyfiawnder Cymunedol?
- Gwneud y llys a’r asiantaethau cyfiawnder troseddol yn fwy ymatebol i’r gymuned leol trwy sicrhau bod anghenion y gymuned yn cael eu clywed, y gweithredir arnynt ac nad ydynt yn digwydd eto
- Torri cylch dieflig aildroseddu trwy ddatrys problemau
- Sicrhau bod troseddwyr yn cydymffurfio â gorchmynion llys a sicrhau bod y gymuned leol yn gweld eu bod yn cydymffurfio â hwy.

Pam nad ydych chi’n ymgorffori’r gwasanaethau ychwanegol hyn yng ngwasanaethau’r llysoedd cyffredin?
Er bod popeth yn awgrymu y bydd cysyniadau sylfaenol Cyfiawnder Cymunedol yn ein cynorthwyo i ostwng troseddu, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal â gwella hyder y cyhoedd yn y system cyfiawnder troseddol, ni allwn fod yn sicr y bydd hyn yn wir hyd nes inni gynnal prosiect peilot mewn nifer o ardaloedd gwahanol. Bydd yr 11 prosiect newydd, a fydd yn adeiladu ar y gwaith yn Lerpwl a Salford, yn cynorthwyo’r Llywodraeth i werthuso sut y gellid prif ffrydio Cyfiawnder Cymunedol ar draws y system cyfiawnder troseddol.

DirectGov